Côr Meibion Morlais – Sing For Wales

 

Calon lân

Nid wy’n gofyn bywyd moethus
Aur y byd neu berlau mân;
Gofyn wyf am galon hapus
Calon onest, calon lân.

Calon lân yn llawn daioni
Tecach yw na’r lili dlos:
Dim ond calon lân all ganu –
Canu’r dydd a chanu’r nos.

Pe dymunwn olud bydol,
chwim adenydd iddo sydd
golud calon lân, rinweddol,
yn dwyn bythol elw fydd.

Calon lân yn llawn daioni
Tecach yw na’r lili dlos:
Dim ond calon lân all ganu –
Canu’r dydd a chanu’r nos.

Hwyr a bore fy nymuniad
Esgyn ar adennydd cân
ar i Dduw er mwyn fy Ngheidwad
roddi imi galon lân.

Calon lân yn llawn daioni
Tecach yw na’r lili dlos:
Dim ond calon lân all ganu –
Canu’r dydd a chanu’r nos.

Calon lân yn llawn daioni
Tecach yw na’r lili dlos:
Dim ond calon lân all ganu –
Canu’r dydd a chanu’r nos.

 


 

Rachie

I bob un sy’n ffyddlon
Dan ei faner Ef,
Mae gan Iesu goron
Fry yn Nheyrnas nef.
Lluoedd Duw a Satan
sydd yn cwrdd yn awr:
Mae gan blant eu cyfran
yn y rhyfel mawr.

I bob un sy’n ffyddlon
Dan ei faner Ef,
Mae gan Iesu goron
Fry yn Nheyrnas nef.

Awn ni gwrdd y gelyn
pawb ac arfau glân.
Uffern sydd i’n herbyn
a’i phicellau tân.
Gwasgwn yn y rhengau
ac edrychwn fry:
Concrwr byd ac angau
Acw! Sydd o’n tu.

I bob un sy’n ffyddlon
Dan ei faner Ef,
Mae gan Iesu goron
Fry yn Nheyrnas nef.

I bob un sy’n ffyddlon
Dan ei faner Ef,
Mae gan Iesu goron
Fry yn Nheyrnas nef.

Haleliwia! Haleliwia!
Moliant iddo byth Amen
Haleliwia! Haleliwia!
Moliant iddo byth Amen
 


 

Delilah

I saw the light on the night that I passed by her window
I saw the flickering shadow of love on her blind
She was my woman
As she deceived me I watched and went out of my mind

My, my, my Delilah
Why, why, why Delilah
I could see, that girl was no good for me
But I was lost like a slave that no man could free

At break of day when that man drove away I was waiting
I crossed the street to her house and she opened the door
She stood there laughing
I felt the knife in my hand and she laughed no more

My, my, my Delilah
Why, why, why Delilah
So before they come to break down the door
Forgive me Delilah I just couldn’t take anymore

My, my, my Delilah
Why, why, why Delilah
So before they come to break down the door
Forgive me Delilah I just couldn’t take anymore
Forgive me Delilah I just couldn’t take anymore
 


 

Sospan Fach

Mae bys Meri Ann wedi brifo
a Dafydd y gwas dim yn iach.
Mae’r baban yn y crud yn crïo
a’r gath wedi sgrapo Jonny bach.

Sospan fach yn berwi ar y tân,
sospan fawr yn berwi ar y llawr.
A’r gath wedi sgrapo Jonny bach.

Dai bach yn soldiwr,
dai bach yn soldiwr,
Dai bach yn soldiwr –
a chwt ei grys e mas.

Sospan fach yn berwi ar y tân,
sospan fawr yn berwi ar y llawr.
A’r gath wedi sgrapo Jonny bach.

(yn araf iawn / very slow:)
Mae bys Meri Ann wedi brifo. A’r…..
(yn gyflym iawn / very fast:)
gath wedi sgrapo Jonny bach Hoi! Hoi!

(yn araf iawn / very slow:)
Mae’r baban yn y crud yn crïo. A’r……
(yn gyflym iawn / very fast:)
gath wedi sgrapo Jonny bach Hoi! Hoi!

(parhau yn gyflym iawn / continue very fast:)
Sospan fach yn berwi ar y tân,
sospan fawr yn berwi ar y llawr.
A’r gath wedi sgrapo Jonny bach. HOI! HOI!
 


 

Gwahoddiad

Mi glywaf dyner lais
yn galw arnaf fi
i ddod a golchi meiau gyd
yn afon Calfari.

Arglwydd dyma fi!
Ar dy alwad di.
Golch fi’n burlan yn y gwaed
a gaed ar Galfari.

Yr Iesu sy’n fy ngwadd
i dderbyn gyda’i saint
ffydd, gobaith, cariad pur a hedd
a phob rhyw nefol fraint.

Arglwydd dyma fi!
Ar dy alwad di.
Golch fi’n burlan yn y gwaed
a gaed ar Galfari.

Gogoniant byth am drefn
Y cymod a’r glanhâd.
Derbyniaf Iesu fel yr wyf
a chanaf yn y gwaed.

Arglwydd dyma fi!
Ar dy alwad di.
Golch fi’n burlan yn y gwaed
a gaed ar Galfari.

 


 

Cwm Rhondda

Guide me, O! Thou great Jehovah!
Pilgrim through this barren land.
I am weak, but thou art mighty!
Hold me with thy pow’rful hand.
Bread of Heaven! Bread of Heaven!
Feed me now and evermore!
Feed me now and evermore!

Open now the crystal fountain
Whence the healing stream doth flow.
Let the fiery, cloudy pillar
lead me all my journey through.
Strong Deliv’rer! Strong Deliv’rer!
Be Thou still my strength and shield!
Be Thou still my strength and shield!

When I tread the verge of Jordan
Bid my anxious fears subside.
Death of death and hell’s destruction
Land me safe on Canaan’s side.
Songs of praises! Songs of praises
I will ever give to Thee!
I will ever give to Thee!

O! am aros! O! am aros!
Yn ei gariad ddyddiau f’oes!
Yn ei gariad ddyddiau f’oes!
 


 

Yma o hyd

Dwyt ti’m yn cofio Macsen,
does neb yn ei nabod o;
mae mil a chwe chant o flynyddoedd
yn amser rhy hir i’r co’.
Pan aeth Magnus Maximus o Gymru
yn y flwyddyn tri-chant-wyth-tri
a’n gadael yn genedl gyfan,
a heddiw: wele ni!

Rŷ’n ni yma o hyd
Rŷ’n ni yma o hyd
Er gwaetha pawb a phopeth
Er gwaetha pawb a phopeth
Er gwaetha pawb a phopeth
Rŷ’n ni yma o hyd

Chwythed y gwynt o’r dwyrain,
rhued y storm o’r môr;
Hollted y mellt yr wybren
a gwaedded y daran encôr.
Llifed dagrau’r gwangalon
a llyfed y taeog y llawr.
Er dued yw’r fagddu o’n cwmpas,
Rŷ’n ni’n barod am doriad y wawr.

Rŷ’n ni yma o hyd
Rŷ’n ni yma o hyd
Er gwaetha pawb a phopeth
Er gwaetha pawb a phopeth
Er gwaetha pawb a phopeth
Rŷ’n ni yma o hyd


Rŷ’n ni yma o hyd
Rŷ’n ni yma o hyd
Er gwaetha pawb a phopeth
Er gwaetha pawb a phopeth
Er gwaetha pawb a phopeth
Rŷ’n ni yma o hyd.

 


 

HEN WLAD FY NHADAU

Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri:
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad –
dros ryddid collasant eu gwaed.

Gwlad! Gwlad!
Pleidiol wyf i’m gwlad.
Tra môr yn fur i’r bur hoff bau
O! bydded i’r heniaith barhau.

Gwlad! Gwlad!
Pleidiol wyf i’m gwlad.
Tra môr yn fur i’r bur hoff bau
O! bydded i’r heniaith barhau.